Artist, cyfarwyddwraig animeiddio ac awdures yw Sophie Koko Gate, sydd wedi’i lleoli yn Llundain. Mae ei hymarfer yn ymdebygu ac yn gwrthsefyll nodweddion animeiddio prif ffrwd, gan chwarae â natur fformwläig adrodd straeon er mwyn ennyn effaith foddhaol naratif confensiynol pan na fu un erioed. Mae cast hynod o gyfarwydd o gymeriadau ecsentrig yn byw y tu ôl i’r llenni, yn heneiddio ac yn trawsnewid wrth iddynt symud rhwng bydoedd cyfochrog ym mhob ffilm. Yn ei gwaith, ymyrrir ar eiliadau prin o bleser gan awydd rhwystredig, hiraeth am rywbeth nad yw byth yn cael ei ddatrys yn llwyr.
Mae ei ffilmiau wedi cael eu dangos yn Tate Modern, Llundain; Gŵyl Ffilmiau Caeredin; Gŵyl Ffilmiau Sundance, Utah, UDA; Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI; Gŵyl Tel Aviv, Israel; Gŵyl Ffilmiau Sydney; Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Llundain a South by Southwest (SXSW) Austin Texas, UDA. Mae hi wedi ennill gwobrau yng Ngŵyl Animeiddio Ottawa, SXSW, Gŵyl Animeiddio GLAS ac Indie Lisboa.