Artist, awdures a chyfarwyddwraig wedi’i lleoli yn Llundain yw Ayo Akingbade. Mae hi’n gweithio’n bennaf gyda ffilm a gosodiadau i fynd i’r afael â themâu pŵer, gofod trefol a safiad. Mae llawer o waith Akingbade wedi dogfennu profiadau o newid cymdeithasol cyflym a ddaeth yn sgil boneddigeiddio yn Llundain, gan ganolbwyntio’n benodol ar Hackney, lle cafodd ei geni a’i magu. Gan symud rhwng ffilmiau ysgrifol arbrofol, ffilmiau dogfen, a ffilmiau naratif byrion mwy traddodiadol, mae ei hymarfer wedi’i seilio ar ymrwymiad i dechnegau analog.
Mae ei gwaith wedi cael ei ddangos yn Oriel Whitechapel, Llundain; Sefydliad Celfyddydau Cyfoes (ICA) Llundain ac Oriel Towner, Eastbourne. Mae’r dangosiadau diweddaraf yn cynnwys y canlynol: Cyfarwyddwyr Newydd/Ffilmiau Newydd; Amgueddfa Celfyddydau Modern (MoMA) a Phythefnos y Cyfarwyddwyr; Gŵyl Ffilmiau Cannes. Agorodd ei harddangosfa sefydliadol unigol fawr gyntaf, ‘Show Me The World Mister’, yn Oriel Chisenhale ym mis Tachwedd 2022 ac mae’n teithio tan 2024. Mae’r lleoliadau’n cynnwys Spike Island, Bryste a Chanolfan Gelf Gyfoes BALTIC.