Imogen Bright Moon

Byw a gweithio Brighton, England

Black Tent - Black Sarah, Imogen Bright Moon. Photo Alun Callender.jpg
Black Tent - Black Sarah, Imogen Bright Moon. Photo Alun Callender.jpg

Mae Imogen Bright Moon yn grefftwr Prydeinig-Romani, yn wehydd stiwdio ac yn arddangos eu gwaith creu celf gyda thecstilau.

Yn symbol cryf o nomadiaeth, mae syniad y babell ddu yn ymgyrraedd yn ôl i hanes torfol y ddynoliaeth yn ei amrywiol weddau; fel y tabernacl beiblaidd yn yr anialwch, fel anheddau traddodiadol llwyth y Balouchi Indo-Iranaidd ar y goror hwnnw, fel pebyll cyfarfod cynfas blewyn gafr y Bedwyniaid a’r Imazigheniaid... fel pebyll cynfas plyg y Rabari a'r Romani. Gan fod y teitl ar gyfer y gwaith celf hwn yn awgrymu thema ddeublyg, Pabell Ddu a Sarah Ddu, (hynny yw, Sarah Kali, nawddsant y bobl Romani), nid yn unig o ran yr arlliw 'tywyll', ond wedi'i gydblethu'n ieithyddol, oherwydd mewn rhai tafodieithoedd Romani, gellir esbonio 'pabell ddu' fel 'Kalo Tsera'. Os gall y babell ddu ei hun fod yn ddelwedd symbolaidd ar gyfer nomadiaeth, yna gall yr olion dail neu’r ‘patrin’ sydd wedi'i wasgaru uchod hefyd weithio fel atgof gweithredol ac amserol o le i gysgodi, o ddiogelwch, o famau, o gof, ac yn wir, o amlygiad ysbrydol. Beth pe gallai'r babell ddu ar yr un pryd fod yn gartref ac yn lle sanctaidd, ac yn rhinwedd statws gwarchodedig addoldai, ddod â chyflwr cymdeithasol dderbyniol y 'pererin' i ymwybyddiaeth y rhai hynny a fyddai am geisio datgymalu'r gwersyll, yn y meddwl ac yn y byd go iawn.

Mae Imogen yn cyfuno gwehyddu â llaw â chwedleua, llên gwerin a chrefftau treftadaeth i greu ei thecstilau stiwdio. Mae ei gwaith yn defnyddio edau wedi’i droelli â llaw ar wyddiau pren syml i archwilio stori barhaus tecstilau a'u lle yn ein bywydau heddiw.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Talk // Sgwrs - Gypsy Maker 5

Dolenni :
www.blacktentblacksarah.com
  • Black Tent - Black Sarah, Imogen Bright Moon. Photo Alun Callender.jpg