Adele Vye

b. Neath
Byw a gweithio Swansea

Adele Vye, I leave you with this, commissioned by The Book Project
Adele Vye, I leave you with this, commissioned by The Book Project

Mae Adele Vye yn fam ac yn artist sy’n gweithio’n bennaf ym maes perfformio a chyfryngau seiliedig ar lensys ochr yn ochr â gwaith amlddisgyblaethol. Mae'n cael ei hysbrydoli gan freuddwydion, straeon, a’r amgylchedd diwydiannol a naturiol a’i brosesau, ac mae ei gwaith wedi’i seilio ar gyd-destun personol ac a rennir i archwilio bydoedd corfforol a mewnol.


“Mae gennyf ddiddordeb mewn consurio a ffenomenau ond rwyf hefyd â seiliau mewn pryderon ynghylch y dirywiad yn yr hinsawdd a bywyd bob dydd. Mae grymoedd ffisegol ac anweledig yn fy nenu ac rwy’n tueddu i feddwl yn ddwys am ddeuoliaethau a chyfosodiadau. Rwyf yn aml yn gweithio ar leoliad penodol a gyda haenau o bryder o’r lefel ficrosgopig i lefel fyd-eang. Mae trosiadau, hud a lledrith, pethau bob dydd, euogrwydd, galar, a thrawsnewidiadau i gyd yn treiddio drwy fy ngwaith. Mae llinellau ymchwil a dylanwadau yn eang a gallant gynnwys trychinebau, dirywiad yn yr hinsawdd, pethau trothwyol, archdeipiau, slapstic, ynni, hanes lleol, daeareg, daearyddiaeth ffisegol a threfol, ffiseg, gwyddoniaeth, ffug-wyddoniaeth, y tywydd, pethau anesboniadwy, iwffos, chwedlau a chwedlau trefol, tymhorau ac adegau’r dydd a’r nos, pethau bob dydd, a phethau anghyffredin.”

Mae At the doorway (Time) ac At the doorway (Tide) yn weithiau fideo sydd wedi eu ffilmio ar ffôn symudol o du mewn i beiriant golchi dillad yr artist. Gwelir yr hyn sy’n anweladwy ac yn anarferol drwy iddi droi’r camera i’w ffilmio ei hun yn cyflawni gorchwyl bob dydd. Mae'n defnyddio tortshys ar gyfer y golau ac fel arwydd bod angen cymorth arni. Wrth fod y tu mewn i'r peiriant, mae'r gwyliwr yn profi'r ymdeimlad o gael ei gaethiwo ac o fod o fewn gofod breuddwydiol diddiwedd. Yn y ddwy ffilm, At the doorway (Tide) a (Time), wrth i lefel y dŵr godi neu wrth i'r byd fynd ar ogwydd y tu hwnt i adnabyddiaeth, mae'n ymddangos bod yr artist benywaidd yn cael ei thrawsnewid, ei phylu, ei haflunio, ei hamlyncu a’i diflannu am y tro gan weithred y peiriant.

Cafodd Adele Vye ei magu yn nhref ddiwydiannol Port Talbot, De Cymru. Graddiodd gydag anrhydedd o Brifysgol Oxford Brookes yn Rhydychen ac enillodd Wobr Goffa John Brookes am waith arbennig ym maes celfyddyd gain. Yn 2009, enillodd Artist y Flwyddyn Cymru ar gyfer gweithiau celf cyfoes sy'n cynnwys ffilm, fideo, sleidiau, sain neu dechnoleg gyfrifiadurol. Mae wedi bod yn artist preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn Art IG yn Hanover yn yr Almaen. Mae Adele wedi arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf yn y Senedd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac wedi cael comisiwn i arddangos ei gwaith yn arddangosfa oddi ar y safle Glynn Vivian, ‘The Book Project’. Mae wedi creu ac arddangos ei gwaith wrth ymateb i brosiect ymchwil ryngwladol ‘Ephemeral Coast’ ac wedi bod yn rhan o arddangosfa ‘Corff Tir Lle’ ym Mhlas Glyn-y-weddw, ‘Obsessions’ yn Modern Art Oxford ac, yn fwy diweddar, ‘Enw Cyfarwydd’, sydd wedi’i guradu gan Contemporary Cymru ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England, yn Oriel Elysium ac ar-lein. Mae Adele yn aelod o grŵp stiwdio Swansea Studios.

@adelevye

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
g39 Fellowship FOUR

Dolenni :
www.adelevye.com
  • Adele Vye, I leave you with this, commissioned by The Book Project