Zara Mader

b. Caerdydd
Byw a gweithio Caerdydd, Cymru

Mae Zara Mader yn ffotograffydd artistig sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn pontio sawl genre, gan gynnwys portreadu a gwaith ffotograffiaeth ar y stryd. O fewn ei gwaith portreadu, mae'n rhoi sylw i'r bobl hynny heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes cerddoriaeth a'r celfyddydau, gan ganolbwyntio'n benodol ar fenywod a phobl groenliw.



Yn fwy diweddar, mae ei diddordeb wedi troi at gyfuno ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ar y stryd / ffotograffiaeth celf a'i gwaith portreadu. Mae'r diddordeb hwn wedi'i gyfuno mewn prosiect parhaus a ysbrydolwyd gan yr eicon pync, Poly Styrene. “Fel ffotograffydd hil gymysg o Gymru sy'n hoffi pync, dyma ymateb i le Poly Styrene yn y byd pync, gan ei gysylltu â'm rôl fel artist ffotograffig yng Nghymru. Gan ein bod yn rhannu'r un cymysg ethnig, mae gen i ddiddordeb yn y rôl a wnaeth hil chwarae yn y dewisiadau a wnaed gan Poly Styrene wrth ddilyn gyrfa ym maes pync yn llwyddiannus, ac a gafodd dosbarth cymdeithasol fwy o effaith ar ei dewis gyrfa. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn ei dylanwad parhaol ar fenywod heddiw. Er iddi ymddangos yn wahanol oherwydd ei lliw a'i dewis o ddillad pync, mae'n cynrychioli grŵp o boblogaeth Prydain sy'n cynyddu o ran maint – gan ei bod yn hil gymysg – felly rwyf am gwestiynu yr hyn a olygir wrth fod yn Brydeinig – a bod yn Gymraes.”

Astudiodd Zara lenyddiaeth Saesneg cyn dechrau gweithio fel ffotograffydd. Ymhlith ei harddangosfeydd diweddar mae Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru, Ffotogallery, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, 2019. Roedd Zara'n aelod o Gydweithfa Ffotograffiaeth Phrame Cymru ac yn gyfrannydd cyson i'r arddangosfeydd. Mae hefyd yn aelod allweddol o @waaru, y Welsh Artists Against Racism Union. Arddangosodd ei gwaith gyda g39 fel rhan o Empower Me, a guradwyd gan Megan Charlotte Fraser, Sacha Reid a Sara Treble-Parry gyda Women's Arts Association Wales. Mae hi hefyd yn gyfrannwr i Made in Roath – roedd Lost Items yn brosiect safle-benodol yn 2014. Mae ei herthyglau'n cynnwys cyfweliad ar gyfer Get the Chance a darllediad am Poly Styrene gyda Rhys Mwyn i Radio Cymru.

@diverselens
@zaramader

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
g39 Fellowship FOUR

Dolenni :
www.orielpanoramig.co.uk