Gwenllian Davenport

b. 1996, Merthyr Tydfil, Wales
Byw a gweithio Merthyr Tydfil

Mae Gwenllian yn gweithio rhwng dwy iaith a’r gwrthdrawiadau o gof cyhyr wrth iddi newid rhyngddynt. Wedi ei hudo gan y tensiwn a llithrigrwydd iaith, mae ei hymarferiad yn cyfarwyddo ei pherthynas gyda’i mamiaith.

Tangled. Tongue tied. Tripping.

Fel deunydd, mae iaith wedi ei wasgu, ei ymdoddi a’i gnoi i mewn i drefn. Mae’r broses o gyfathrebu yn dod yn gnawdol, fel mae’r broses o dderbyn yr wybodaeth hon yn glir. Wrth edrych ar iaith fel deunydd mewn statws cyfartal â phlastr, clai a thecstil mae’r lympiau a thalpiau iaith yn profi proses o draul; Mae gwaith Gwenllian yn aml yn dwyn ffrwyth drwy ddull greddfol i greu. Mae’r canlyniad yn broses gylchol; ymarferiad sydd mewn dialog cyson a’i hunan wrth i waith newydd ffurfio.


Graddiodd Gwenllian yn 2019 gyda BA mewn Celfyddyd Gain o Bath School of Art and Design, a derbyniodd gymrodoriaeth Spike Island Graduate Fellowship, 2019/20, gwobr Kenneth Armitage Young Sculpture Award 2019, gwobr Bath Sparks Graduate Award 2019, gwobr Outstanding Student Award for Fine Art 2019, Prifysgol Bath Spa. Mae ganddi ymarferiad cydweithredol o’r enw MASH gyda Abi Charlesworth, ac mae wedi arddangos yn Arnolfini, Bryste, Centrespace Gallery, Bryste, Bargehouse, Oxo Tower, Llundain a Bowes-Parris Gallery, Wandsworth, Llundain.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
UNITe22

Dolenni :
www.gwenlliandavenport.co.uk