Gydag ymarferion sy'n cwmpasu perfformiadau, gosodiadau a ffilmiau, mae Jasmina Cibic yn ystyried sut mae ideolegau a diwylliannau yn cael eu creu ac yna'u fframio drwy fecanweithiau fel celf a phensaernďaeth. Mae ei gwaith yn archwilio'r broses o greu diwylliant cenedlaethol a sut y gellir ei ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol, ynghyd â rhoi sylw i fathau o bŵer meddal. Cynrychiolodd Jasmina Slofenia yn ystod 55fed Gŵyl Eilflwydd Fenis ac mae hefyd wedi cynnal arddangosfeydd unigol yn BALTIC, sef y Ganolfan Celfyddyd Gyfoes yn Gateshead.