Mae fideos Sophia Al-Maria yn archwilio hunaniaeth ôl-drefedigaethol, imperialaeth, a gwrth-hanesion, gan weu cerddoriaeth, llenyddiaeth, hanes llafar, ffilm a dawns gyda'i gilydd. Mae ei gwaith darniog, aflinol yn aml yn cael ei osod yn erbyn cefndir o ffuglen wyddonol, ac yn archwilio diwygiad hanes, ynysiad unigolion drwy dechnoleg, ac elfennau cyrydol prynwriaeth a diwydiant. Ymhlith ei harddangosfeydd unigol y mae'r Garage ym Moscow, Oriel Whitechapel, ac Amgueddfa Whitney yn Efrog Newydd.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: