Angharad Williams

Angharad Williams, Eraser, 2020, Performance Still in collaboration with Richard Sides. Photo by Giorgia Palmisano & Giulia Baresi, Courtesy of Archivo Conz, Berlin.
Angharad Williams, Eraser, 2020, Performance Still in collaboration with Richard Sides. Photo by Giorgia Palmisano & Giulia Baresi, Courtesy of Archivo Conz, Berlin.

Mae Angharad Williams yn artist a llenor o Ynys Môn. Mae ymarfer Angharad yn drawsddisgyblaethol, sensitif i'r safle ac wedi'i arwain gan syniadau. Mae Angharad yn dychwelyd at ymchwil a meddwl ynghylch carchariad, gweld (a beth mae'n ei olygu), heddychiaeth, cefn gwlad, diwylliant poblogaidd, dosbarth cymdeithasol, defnyddio, a syniadau o'r hunan.



Ganwyd Angharad ar Ynys Môn ac mae wedi ei lleoli yno. Mae arddangosfeydd unigol yn cynnwys High Horse, Kevin Space, Fienna (2021); Without the Scales, Schiefe Zaehne, Berlin (2020); Island Mentality, Peak, Llundain (2019). Mae arddangosfeydd grŵp yn cynnwys SECOND, FriArt, Fribourg (2021); Hergest: Trem, gyda Mathis Gasser, Swiss Institute, Efrog Newydd (2021); Lady Helen, Llundain (2020); Not Working: Artistic Production and Social Class, Kunstverein München (2020); We Shall Survive in the Memory of Others, Galerie Barbara Weiss, Berlin (2019). Mae perfformiadau wedi eu cynnal yn KW Institute for Contemporary Art, Berlin (2020), ICA, Llundain (2019), a Radiophrenia, Glasgow (2018).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
SURVEY II
  • Angharad Williams, Eraser, 2020, Performance Still in collaboration with Richard Sides. Photo by Giorgia Palmisano & Giulia Baresi, Courtesy of Archivo Conz, Berlin.
  • Angharad Williams, Prisoners, 2019. Courtesy of Mustafa Hulusi