Tako Taal

b. Wales
Byw a gweithio Glasgow

Tako Taal, Residue, Slide Film, 2018.
Tako Taal, Residue, Slide Film, 2018.

Mae Tako Taal yn artist a rhaglennydd. Wrth wraidd ei hymarfer artistig mae strwythurau seicig perthnasau gwladychol, a'r cwestiwn o ba mor fyw maent yn aros yn y presennol.



Ganwyd Tako yng Nghymru ac mae'n byw yn Glasgow. Astudiodd Ymarfer Celf Cyfoes yn Ysgol Gelf Gray's, Aberdeen (2015) ac roedd yn gymrawd RAW Academy 2019 yn RAW Material Company, Dakar, ac Artist Preswyl yn Talbot Rice Gallery, Caeredin (2018-20). Yn 2021, mae ei gwaith yn cael ei gyflwyno yn NADA House, Governors Island, Efrog Newydd, ac mae'n gyd-raglennydd i GIVE BIRTH TO ME TOMORROW, gŵyl delweddau symudol artistiaid LUX Scotland. Roedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Margaret Tait 2021. Mae arddangosfeydd eraill yn cynnwys: Glasgow Women’s Library (2019); Grand Union, Birmingham (2018); CCA Glasgow (2017); Galerie de l’UQAM, Montreal (2017).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
SURVEY II

Dolenni :
www.takotaal.com
  • Tako Taal, Residue, Slide Film, 2018.
  • Tako Taal, Untitled [snow], 2017.