Katarzyna Perlak

Katarzyna Perlak, Happily Ever After, 2019.
Katarzyna Perlak, Happily Ever After, 2019.

Mae Katarzyna Perlak yn gweithio mewn delweddau symudol, perfformiad, sain, tecstiliau a gosodiadau. Mae ei gwaith wedi'i yrru gan wleidyddiaeth a theimladau, gan archwilio goddrycholdeb queer, mudo a dichonolrwydd affaith fel offeryn ar gyfer cofrestru ac archifo momentau hanesyddol presennol, parhaus ac o'r gorffennol.



Mae Katarzyna yn artist a anwyd yng Ngwlad Pwyl sydd wedi'i lleoli yn Llundain. Mae ei chefndir mewn Athroniaeth, a astudiodd yng Ngwlad Pwyl, a Chyfryngau Celf Gain, a astudiodd yng Ngholeg Celfyddydau Camberwell (2008) ac Ysgol Gelf Gain Slade (2017). Mae ei ffilmiau wedi eu dangos yn eang mewn gwyliau ffilm ledled Ewrop ac roedd yn rhan o Bloomberg New Contemporaries yn 2017. Mae wedi cael arddangosiadau rhyngwladol, gan gynnwys: Young Curators New Ideas V, Detroit Art Week, Detroit, I was, but just awake, Art Night, Llundain (2019); Tighten Throat and Butterflies, Metal, Biennial Lerpwl, Lerpwl (2018); A Day of Learning, Diaspora Pavilion, 57fed Biennale Fenis, Fenis (2017); a Remote Intimacies, Leslie – Lohman Museum of Arts, Efrog Newydd, ac ONE Archives, Los Angeles (2021).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
SURVEY II

Dolenni :
www.katarzynaperlak.com
  • Katarzyna Perlak, Happily Ever After, 2019.
  • Katarzyna Perlak, Niolam Ja Se Kochaneczke, 2016.