Rebecca Moss

b. Essex
Byw a gweithio Essex

Rebecca Moss, Waterworks, video still,  2018.
Rebecca Moss, Waterworks, video still, 2018.

Mae Rebecca Moss yn archwilio naratifau arwrol yn feirniadol drwy ystumiau abswrdaidd. Mae ei fideos yn damcaniaethu ar ansefydlogrwydd ecolegol, perthynas dynoliaeth â'r byd naturiol, a sut allai persbectif ffeministaidd drawsnewid ein safbwynt ar y blaned. Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn sut all perfformiad slapstic gyfarch grym drwy hiwmor.



Ganwyd Rebecca yn Essex, lle mae wedi ei lleoli ar hyn o bryd. Enillodd ei MA mewn Cerflunio yn y Coleg Celf Brenhinol (2017), a’i BA mewn Paentio gan Goleg Celf Camberwell (2013). Mae prosiectau diweddar ac ar y gweill yn cynnwys preswyliad Unnatural Selection gydag Airspace Gallery, Stoke-on-Trent (2021); sgriniad o waith newydd ei gomisiynu, Here/Her, A Walk Along the Edge of the City, ar gyfer Estuary Festival, Metal Culture UK (2021); gwahoddiad i gynnig syniad am gerflun cyhoeddus ar gyfer The High Line, Efrog Newydd (2020); a chomisiwn gyda PEER Gallery, Hoxton, i weithio gyda Llysgenhadon PEER 17–23 oed i ddatblygu gwaith celf ymatebol i'r safle yn nwyrain Llundain (2019-20). Mae sioeau unigol yn cynnwys From the Sublime to the Ridiculous, Bunkier Sztuki, Krakow (2019). Mae sioeau grŵp yn cynnwys: The Sea is Glowing, Rijeka, Croatia, (2020); Future Generation Art Prize, PinchukArtCentre, Kiev, a Biennale Fenis (2017); A BROKEN LINK, Golden Age Cinema, Sydney, Awstralia (2017).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
SURVEY II

Dolenni :
www.rebeccamoss.co.uk
  • Rebecca Moss, Waterworks, video still,  2018.
  • Rebecca Moss, Thick-skinned, video still, 2018.