Beau W Beakhouse

Intersection and Convergence Residency, 2019
Intersection and Convergence Residency, 2019

Artist, gwneuthurwr ffilm, a churadur annibynnol wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw Beau W Beakhouse. Mae hefyd yn rhedeg prosiect curadurol, radio a phrint sef LUMIN. Mae ei ymarferiad creadigol yn cynnwys ffilm, testun, coedwriaeth, sain a gosodwaith, ac yn aml yn troi at iaith, damcaniaeth ôl-wladychol, addysgeg wahanol, gofodau di-sefydliadol, a thechnegau o freuddwydio a ffuglen fyfyrgar. Mae’n cael ei ddenu gan berthynas, croestoriad a chydgyfeiredd, ac mae ei ymarferiad yn ymwneud a chreu addysgeg wahanol, gofodau ar gyfer dialog a dulliau cyfunol o weithio.

Mae ei waith yn cynnwys cyfnod preswyl gyda Made in Roath, gosodiad o goedwriaeth a cherflunwaith, gwaith ffilm newydd, printiau ac ymchwil ar y croestoriadau o, a’r undod rhwng, gwaith ôl wladychol ac ecolegol. Roedd y gosodiad hefyd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau gwadd gydag artistiaid, ymarferwyr sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, penseiri a ffrindiau, ac argraffiad o waith ymchwil Beau ar gyfer ymwelwyr y gofod.

Mae wedi gweithio gyda Peak Cymru, MOSTYN, Gentle/Radical, Llenyddiaeth Cymru, Where I’m Coming From, SHIFT, g39, Canolfan Mileniwm Cymru ac eraill. Mae ganddo breswylfeydd ar y gweill gyda Catalyst Arts, Tangent Projects ac arddangosfa unigol gyda Arcade/Campfa. Mae Beau hefyd yn ysgrifennu traethodau ar gyfer cyhoeddiadau gwahanol, yn ddiweddar yn ystyried modelau cyfunol o addysgeg wedi ei greu ar y cyd i Lenyddiaeth Cymru.



Dolenni :
https://beauwbeakhouse.com
  • Intersection and Convergence Residency, 2019