Adéọlá Dewis

Byw a gweithio Cardiff

Mae Adeola yn artist sydd â diddordeb mewn perfformiadau diwylliannol gwerin a chynhenid sy'n cynnwys elfennau o wisgo masgiau - Carnifal, dawnsiau masgiau a defodau. Mae ei gwaith yn archwilio mynegiadau o hunaniaeth, sy'n perthyn i'r gwasgariad a'r ffyrdd yr ydym yn perfformio'r rhannau.

'Mae rhai yn gweld Carnifal fel rhywbeth trefnedig. Nid oes gennyf yr un awydd i ddechrau dadl naill ai o blaid neu yn erbyn y syniad hwn. Y mas' yw fy niddordeb i, ac nid yw’r profiad mas’ fel yr wyf i’n ei weld, yn drefnedig. Mae'n ddigymell. Gellir ei ystyried fel ail-weithrediad, fel yr wyf eisoes wedi trafod, ac yn ei hanfod mae’n ymwneud â delio â'r hun, defnyddio sbardunwyr 'defodau' penodol gan gynnwys y masg / gwisg, y gerddoriaeth, y gymuned a'r gofod a ganiateir. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn cyflwyno sioe. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn creu stori sy'n gwneud synnwyr i'r bobl sy'n dewis ei gweld. Hoffwn ymgymryd â phrofiad gonest, digymell, greddfol, camau ymatebol a fydd o bosibl yn cysylltu â'r gwyliwr / cyfranogwr wrth iddynt wylio'r darn. Rhaid i ni anghofio beth rydym yn credu ein bod yn ei wybod, am eiliad, a chaniatáu inni fod yn ni ein hunain, fel yr ydym, gyda'r materion cyfredol o ran y 'ninnau' sy'n 'ni'. Yn gyntaf, rhaid i ni allu fod yn y gofod presennol, er mwyn gallu gweld ein hunain, teimlo'n hunain a chydnabod sut rydym yn teimlo ar y pryd. Gallwn chwerthin os ydym angen, sgrechian neu neidio, neu fod yn llonydd, arsylwi ac adnabod.“

Mae arddangosfeydd diweddar yn cynnwys Me and mi Jumbie:Mas’ in the Making, Studio 66 & Lloyd Best Institute, Trinidad, India'r Gorllewin, Concentric, TramShed Cardydd. Route to Roots, Ffotogallery, Caerdydd. Mae'n cyfrannu’n gyson at wyliau a chynadleddau, yn fwyaf diweddar fel rhan o Performing Welsh Identity yn ogystal â Racialised Welsh Identity gan Brifysgol Caerdydd. Yn 2018, cydweithiodd â Charnifal Trebiwt a Megan Broadmeadow er mwyn datblygu'r perfformiad agoriadol. Yn 2019, ymunodd â Windrush Cymru fel swyddog treftadaeth.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Intermission 2020
Madam Kamboulé
Adéọlá Dewis


Dolenni :
www.mamadatsmas.blogspot.co.uk