Radha Patel

b. Cardiff
Byw a gweithio Cardif, Wales

Radha Patel, 2019
Radha Patel, 2019

Mae Radha yn awdures ac yn artist ac mae ei gwaith yn pontio gwladychiaeth, natur, crefydd
a'r dyfodol.

'Mae gennyf ddiddordeb mewn sinema arbrofol a sinema sy'n llyfn a phersonol yn ei chynhyrchiad a'i ffurf; mae unrhyw stori y credwn y dylid ei hadrodd yn bwysig. Rwyf yn defnyddio unrhyw beth a phopeth...y gallaf ei lunio a’i ddarganfod er mwyn creu dogfennau sy'n herio syniadau hanesyddol o beth sy'n iawn / drwg / da / digwyddodd hyn a'r llall.
Mae cynrychiolaeth yn bwysig'

Mae'n gweld ei gwaith fel rhywbeth sy'n esblygu er mwyn dweud stori trwy gyfryngau gwahanol gan gynnwys gwaith print, testun, ffilm ac ieithoedd gweledol ac mae’n mwynhau ysgrifennu fel ffordd o herio syniadau hanesyddol o’r hyn sy’n dda / drwg / digwyddodd hyn a'r llall. Fel artist / gwneuthurwr ffilm, mae wedi cymryd rhan yng nghwrs South London Gallery’s REcreative Film School, a chael ei mentora gan Saeed Taji Farouky a Laura Wilson, ac, yn 2019, bu'n un o'r wyth artist a ddewiswyd i greu ac arddangos gwaith yn g39, fel rhan o'r rhaglen flynyddol UNITe.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
UNITe 2019
Intermission 2020
Finding Aarti

Dolenni :
https://filmfreeway.com/RadhaPatel
  • Radha Patel, 2019
  • Radha Patel, 2019
  • Radha Patel, <i> Peace of Mind</i>, 2018