Anna Raczynski

b. 1986
Byw a gweithio East Lancashire

<i>Messy Democracy</i>
Messy Democracy

Mae Anna Raczynski yn wneuthurwr ffilm ac yn artist gweledol sydd â diddordeb pennaf mewn arferion celfyddyd dogfennol a chydweithredol. Mae hi'n gweithio gyda delweddau symudol ac arferion celfyddyd dogfennol estynedig i fynegi syniadau cysyniadol yn ymwneud â hunaniaethau diwylliannol a chymdeithasol o fewn mannau cyhoeddus a phreifat.



Mae'r grwpiau, cymunedau ac unigolion mae hi'n dewis gweithio gyda nhw yn rhoi ystyron a phrosesau gwahanol i'w harferion. Ar gyfer y gwaith sydd ar y gweill, Messy Democracy, gwnaeth Anna weithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Canolbarth Sir Gaerhirfryn ac aelodau o'r gydweithfa Precarious University. Ar y cyd, gwnaethant ddatblygu arddangosfa a oedd yn ymateb i'r posibilrwydd o ail-greu’r ysgol gelf fel gofod ar gyfer gweithredu creadigol a democrataidd.

Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: Pendle Movie Maker, Colne, Lancashire (2018); SURVIVAL Art Review, Wroclaw Poland (2016); Godzina Trzech Wiedz´m [Triple Witching Hour], Galeria Piekary, Poznan, Poland (2016). Enillodd Raczynski 'Jerwood Visual Arts' Gwobr Artist (2017).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
https://annaraczynski.com/ANNA-RACZYNSKI
  • <i>Messy Democracy</i>
  • <i>The Movie Makers</i> 2018
  • <i>Messy Democracy</i>