The Slip, 2018
Mae Milly Peck yn archwilio'r ardal rhwng delwedd fflat a gwrthrych tri dimensiwn. Mewn ffordd graffig, mae ei gwaith yn troi golygfeydd a dynnwyd o fywyd bob dydd yn lluniau torri sy’n debyg i gelfi llwyfan, gan geisio gweithredu fel delwedd fflat, ddarluniadol ar yr un pryd â thirwedd senograffig tri dimensiwn.
Mae gwaith diweddar yn deillio o ymchwil i ddiwylliant tasgau cartref yn y maes domestig drwy ail-greu systemau domestig ffuglennol, diffygiol megis gwaith plymio a weirio. Mae'r gweithiau hyn yn aml yn dynwared ac yn rhyngweithio â nodweddion pensaernïol y gofod lle y cânt eu harddangos. Mae gwaith blaenorol wedi awgrymu adeiladwaith tebyg i lwyfan, gan annog safbwynt o'r blaen yn aml, sy’n caniatáu i botensial perfformiadol y gwaith gael ei orliwio a'i bwysleisio; mae’r gosodiad yn datblygu'n gelfi ac yn bictiwrs llwyfan ar gyfer naratif newydd, ffuglennol.
Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys:
The Slip, Tintype Gallery, Llundain (2018);
Pressure Head, Assembly Point, Llundain (2018);
Launch Pad: Th-th-th that’s all folks!, Castlefield Gallery, Manceinion (2018);
Refinding: Jessie Flood-Paddock efo Kenneth Armitage, The Tetley, Leeds (2017);
Mudhook, Tintype Gallery, Llundain (2017); Top Bantz, The Royal Standard, Lerpwl (2016).
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Survey Dolenni :https://
www.millypeck.com/