Joe Fletcher Orr

b. 1991, Birkenhead
Byw a gweithio Birkenhead

Mae Joe Fletcher Orr yn gweithio gydag amrediad eang o gyfryngau. Ar y cychwyn cyntaf, mae ei weithiau'n ymddangos fel pe baent yn gellweiriau neu'n frawddegau bachog un llinell, ond maent yn cyfeirio at berthynas gymhleth rhyngddo'i hun, ei deulu a'r byd celf.



Yn aml wedi'u gwneud trwy gydweithio gydag aelodau o'i deulu, mae cerflunwaith, perfformiadau a gosodiadau Orr yn defnyddio hiwmor i danseilio 'difrifoldeb' y byd celf ac awdurdod y gwrthrych celf. Mae Orr yn olrhain ei barodrwydd i wneud hwyl am ben ei waith ei hun a chelf gyfoes i ymweliadau a wnaeth gyda'i dad i orielau celf pan oedd yn fachgen ifanc, pan fyddai'n cael ei annog i chwerthin ar ben llawer o'r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos.

Astudiodd Joe yn Manchester School of Art (2013). Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: A Flamingo, a Camel and an Owl walk into a Gallery... , SABOT, ClujNapoca, Romania (2017); Neon The Charged Line, The Grundy, Blackpool (2017); Original Fake, Maisterravalbuena, Madrid, Sbaen (2017); Looking North, Walker Art Gallery, Lerpwl (2017).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
http://joefletcherorr.co.uk/