Flo Brooks

b. 1987, Devon
Byw a gweithio Brighton / South West

<i>Passing Objects</i>, 2017
Passing Objects, 2017

Mae Brooks yn uniaethu fel unigolyn traws, cwiar, ac mae ei brofiadau ei hun yn aml yn bwydo'r senarios a gaiff eu darlunio ganddo. Mae ymgorfforiad traws, teulu, gofal a gwaith yn rhai o'r themâu y craffir arnynt ac yn cael eu hailddychmygu o fewn paentiadau Brooks.



Yn y gwaith diweddar, maent yn archwilio trosiad y corff fel cartref, gan ddisgrifio golygfa ddomestig wyllt sydd wedi'i dwysáu lle y bo pobl, arferion a gwrthrychau yn cymryd rhan mewn ffurfiau amrywiol o welliant corfforol hylan a phensaernïol. Mae'r gwaith yn defnyddio eironi a dychan i watwar y llinellau ideolegol rydym yn aml yn eu tynnu rhwng cynnal a chadw ac addasu, y dilys a'r ffug, yr angenrheidiol a'r gormodol, a'n hymdrechion didrugaredd i'w cynnal. Mae agweddau ymddangosiadol cyffredin a dibwys o fywyd bob dydd yn aml yn cael eu defnyddio fel cefnlen i gwestiynu'r credoau diwylliannol sydd wedi hen sefydlu a rhoi naratifau ymylol yn y blaendir. Yn ychwanegol at baentio, mae Brooks hefyd yn gweithio ym maes collage, cyhoeddiadau ac arferion cymdeithasol, yn ogystal â gydag archifau a chymunedau lleol.

Derbyniodd Flo BFA oddi wrth Ysgol Arlunio a Chelfyddyd Gain Ruskin, Prifysgol Rhydychen, yn 2010. Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: What Comes To Matter, Plymouth Art Weekender, Plymouth (2018); Deep Down Body Thirst, Glasgow International, Glasgow (2018); Is Now a Good Time? , Cubitt Gallery, Llundain (2017). Yn ddiweddar, gwnaeth Flo lansio Outskirts, prosiect portreadu cymdeithasol cydweithredol a gwaith llyfr sy’n archwilio trothwyoldeb mewn perthynas â phrofiad traws a’r rhai nad ydynt yn cydymffurfio â disgwyliadau o ran rhywedd.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
https://flobrooks.co.uk/
  • <i>Passing Objects</i>, 2017
  • <i>Normal With Wings</i>, 2016
  • <i>DeWalt Decorum</i>, 2016