Hazel Brill

b. 1991, London
Byw a gweithio London

<i>I Made A Show For You</i>, 2017
I Made A Show For You, 2017

Mae Hazel Brill yn gweithio ar draws meysydd fideo, animeiddio, sain, cerfluniaeth, testun a pherfformiad. Mae hi'n cyflwyno fideos mewn ffordd theatrig i greu 'sioeau' sy'n cyfuno cyd-destunau gwahanol, gan bendilio rhwng graddau amrywiol o ffuglen.



'Mae pob prosiect yn dod o wahanol feysydd o ymchwil a phrofiad, felly mae'r syniadau y tu cefn i'r gweithiau'n wahanol ond mae gennyf ddiddordeb parhaus mewn strwythur adrodd straeon a sut mae'n bodoli mewn cyd-destunau gwahanol. Mae syniadau ar gyfer fy ngwaith wedi cael eu dylanwadu gan dasgau corfforaethol rwyf yn digwydd bod (yn anffodus) yn eu gwneud bryd hynny er mwyn cefnogi fy ngwaith celf. Mae iaith cyllid yn ymdreiddio i'm gwaith ysgrifennu – dechreuais feddwl am fuddsoddiadau ariannol fel gweithred emosiynol, yn debyg i ymlyniad a cholledion perthynas ramantaidd. Roeddwn yn meddwl am natur anochel bosibl a phatrymau a rennir – er enghraifft, dau begwn strwythur fy ffitiau epileptig, enillion a cholledion ergyd caffein – a natur ragweladwy'r cylchau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau hyn. Roeddwn i'n meddwl am fath o gamweithrediad cenedliadol, lle y caiff arferion eu trosglwyddo o'r naill genhedlaeth i'r llall, gan wneud newid yn anodd. Efallai bod dod ag ef yn ôl i gylchredau tymhorol naturiol yn helpu i wrthod temtasiwn i allanoli pesimistiaeth i'r gwaith yn ormod.'

Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: Shonisaurus Popularis, Turf Projects (2018); Woke Up In Spring, Zabludowicz Collection, Llundain (2018); Artagon III, Paris, Ffrainc (2017); Ident, East Bristol Contemporary (2017); Workplace, Workplace Gallery, Newcastle upon Tyne (2017); In Succession, Museum Of London, (2016–17); In Bardo; Act Two, part of BALTIC 39 Fig2, Baltic 39, Newcastle upon Tyne (2014).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
http://www.hazelbrill.com/
  • <i>I Made A Show For You</i>, 2017
  • <i>Woke Up In SpringM</i>, 2018
  • <i>Shonisaurus Popularis</i>, 2018