Clare Charles

b. 1982, Newport, Wales
Byw a gweithio Cardiff, Wales

Clare Charles, <i>Jesus Christ</i>, 2016
Clare Charles, Jesus Christ, 2016

Mae cysyniadau sy'n ymwneud â chyfarfod, proses a sgwrsio yn gyffredin i waith Clare. Mae'n ymchwilio i gyfryngau celf amrywiol, gan fynd y tu hwnt i ffiniau sefydlog mewn ymarfer materol i greu gwaith sy'n cwmpasu agweddau cymdeithasol a dinesig.


Mae themâu'r gymuned a galar cyhoeddus yn codi dro ar ôl dro mewn gwaith Clare – yn enwedig marwolaeth Diana, a rhagdybiaethau parhaus ymatebion emosiynol a chyfrifoldebau. Yn ogystal â hyn, cynhyrchodd waith a oedd yn ymateb i dapddawnsio fel math o gyfeillgarwch a gweithredu radical, helpodd dafarn yr oedd dan fygythiad o gau i gyhoeddi papur newydd (gan weithio gyda chwsmeriaid rheolaidd), a chreodd brosiect rhannu sgiliau dros gyfnod o flwyddyn gyda’r gymuned leol, a ddaeth i ben gyda phryd o fwyd cymunedol enfawr.

Mae Clare wedi graddio mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Brighton. Yn fwyaf diweddar, mae wedi gweithio gyda gŵyl LLAWN yn Llandudno (2017) a hi oedd yn curadu All Back to Carol's – sioe mewn siop anifeiliaid anwes gaeedig (2016). Yn ogystal â hyn, hi yw cyd-gyfarwyddwr madeinroath a chyfarwyddywr Arcade // Campfa.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
UNITe 2018
Everything.
All At Once.
At The Same Time.

g39 Fellowship TWO
No
Time
To Plan
an Ending
  • Clare Charles, <i>Jesus Christ</i>, 2016
  • Clare Charles, <i>LLAWN Festival</i>, 2018
  • Clare Charles, <i>Please Water The Plants</i>, 2018
  • Clare Charles, <i>FEAST</i>, 2016
  • Clare Charles, <i>FEAST</i>, 2016
  • Clare Charles, <i>FEAST</i>, 2016