KATCONA

Mae KATCONA yn seiliedig ar ymholiadau sylfaenol sy'n cyfrannu at ei faniffesto



- I greu rhywle arbenigol ar gyfer cynnyrch a fydd yn datblygu o ble mae'r artistiaid yn gorffen gweithio ar gyfer eu harferion unigol ac yn dechrau gweithio tuag at ddull ehangach, ond yn dal i gynnal yr un gwerthoedd a ddefnyddiwyd gan yr artist yn ei brosesau creadigol ei hun.
- Mae hyn mewn ffordd yn cynnig bodoli mewn dwy economi. A all y ddau lif hyn gyd-fodoli o fewn arferion unigolyn ynddo’i hun? Defnyddir un i herio a'r llall i dorri.
- Canolbwyntio ar greu cefndir ariannol ar gyfer yr artist a'r bobl greadigol na fyddai'n dymuno i'w harferion celf unigol gael eu llywio gan economeg y farchnad.
- Mae hefyd yn cynnig dod yn ofod ar gyfer ymarferwyr a fyddai'n hoffi lleoli eu hunain ar y trothwy, lle y gallai'r tu mewn a'r tu allan fod yn ddwyffordd/ymgyfnewidiol.
- Gall y gweithiau hyn fod ar ffurf gwrthrych; ond eto i gyd gan ystyried y drafodaeth ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r gwrthrych a beth sy'n digwydd i wrthrych y gwaith celf?
- Mae gennym fwy o ddiddordeb mewn cyflwyno syniadau am yr hyn a wrthodwyd, y profion, y prosiectau/cynnyrch a gafodd eu cwblhau neu na chafodd eu cwblhau, y diystyr, yr iwtopia, cynnig archifau newydd/ar gyfer y dyfodol, cyhoeddi, llyfrau, posteri at ddiben gwneud dim byd.


Y bobl sy'n cymryd rhan o dan KATCONA:

Shreyas Karle a Hemali Bhuta
Bhavna Nagrani
Teja Gavankar a Vishal Kadam (Karobhar)
Mihir Wairkar
Manasi Jadhav
Madhav Imartey
Sashikant Thavudoz

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
The Rejoinders