Dw i'n defnyddio iaith i drafod, dadansoddi, myfyrio ac ail-greu gwaith celfyddydol a dyluniadau. Ar ôl graddio o Sefydliad Celf y Courtauld llynedd, gwnes benderfyniad bwriadol i symud yn ôl i Gymru. Mae hyn wedi hybu symudiad yn fy ngwaith – yn lle trafod gwaith artistiaid Prydeinig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, gan mwyaf, dw i bellach yn ystyried arferion curadurol cydweithredol.
Mae gen i ddiddordeb yn y berthynas rhwng celfyddyd a dylunio, mewn defnyddio diwylliant materol ac mewn delweddau sydd yn aml yn cael eu hystyried yn 'gelfyddyd y cyrion', neu yr hyn a alwodd James Elkins yn 'ddelweddau nad ydynt yn gelfyddyd'. Mae gwaith o’r fath yn fodd i oleuo a herio ein canfyddiadau o gelfyddyd. O'r herwydd, caiff fy ngwaith ei ddiffinio gan archwiliadau o hylifedd y weithred artistig – a’i afael y tu hwnt i gyfnodau daearyddol a hanesyddol penodol.