Mae Billy Kerry yn artist ac yn addysgwr o Gaergrawnt. Cafodd Billy ei hyfforddi yng Ngholeg Celf a Dylunio Chelsea, ac enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain yno. Ers graddio yn 2009 mae Kerry wedi bod yn ysbrydoli eraill drwy addysgu yng Ngholeg Rhanbarthol Caergrawnt. Mae'n parhau i ddatblygu ei ymarfer celf ei hun sy'n cynnwys cerfluniaeth, cydosodiad, crochenwaith, darlunio, paentio, collage, tecstilau a pherfformiad.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: