Mae fy ngwaith yn archwilio syniadau am wybodaeth a rheolaeth, ac mae fy ngwaith mewn cyfryngau cymysg yn ymwneud â delwedd a thestun ac yn edrych ar y modd y gall ein hymddygiad gael ei ddylanwadu gan ffactorau allanol. Hyfforddais fel ffotograffydd, a dw i'n ymwneud yn agos â'n perthynas â ffotograffiaeth a ffyrdd o weld. Wrth dderbyn y ffotograff fel darn o wybodaeth, dw i'n ceisio gweld sut y mae haenau o amser yn effeithio ar 'gywirdeb' y ddelwedd. Mae ffotograffiaeth yn gyfrwng pwerus, yn bersonol ac yn gyfryngol, ond y mae'n ffurf gelfyddydol oddrychol. Rydym yn creu mwy o luniau nawr nag erioed o'r blaen, ond beth fydd gwaddol y delweddau hyn a sut allai'r wybodaeth honno gael ei chamddefnyddio? Mae fy ngwaith yn archwilio'r cwestiynau hyn a'r gofod rhwng ffotograffiaeth, hanes, gwybodaeth, rheolaeth a thechnoleg, ynghyd â llawer iawn o syniadau eraill.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: