Caf fy hudo gan y modd y mae deunyddiau yn llithro trwy le ac amser ac mae fy ngwaith yn dehongli ein perthynas ddynol gyfoes ag arteffactau drwy gyfrwng ieithoedd benthyg a phrosesau o ddisgyblaethau eraill (serameg, deintyddiaeth, archeoleg, mwyngloddio, dawns ...). Dw i'n aml yn cynnal 'sgyrsiau' gyda chymunedau penodol, arbenigwyr ac aelodau o fy nheulu er mwyn cynhyrchu testunau a sgriptiau sy'n dod wedi hynny yn rhan o'r gwaith, ar ffurf naratifau wedi’u hail-greu.
Eleni cefais fy newis i fod yn un o dri artist Standpoint Futures a chyn hynny treuliais gyfnod preswyl gyda UNIT(e), g39 (2016).O'r Alban yn enedigol, dw i wedi byw ledled yr Alban, Cymru a Lloegr ac ar hyn o bryd dw i'n byw yng Nghaerdydd.