Becca Thomas

b. 1982, Merthyr Tydfil, Wales
Byw a gweithio Cardiff, Wales

<i>RED SHOES MARCH</i>, documentation (2014)
RED SHOES MARCH, documentation (2014)

Trwy ei harfer, mae Becca Thomas yn canolbwyntio fwyaf ar y broses o gerdded. Mae'n myfyrio ar y profiad goddrychol hwn o'r amgylchedd ac yn mynegi hyn drwy sgyrsiau, atgofion a gwaith ysgrifennu. Yn aml, mae ei gwaith braidd yn anodd ei weld, ac efallai nad yw'n cael ei greu'n fwriadol bob amser ar gyfer cynulleidfa yn yr ystyr draddodiadol, sydd yn helpu i ddiogelu dilysrwydd ei nod celfyddydol yn ei barn hi.


Mae gweithio gyda phobl hefyd yn thema sy'n codi dro ar ôl dro. Mae Becca yn trefnu gofodau cymdeithasol a digwyddiadau i archwilio deinameg gymdeithasol. Mae hefyd yn ymddiddori mewn casgliadau a theithio, ac mae ganddi frwdfrydedd cyffredinol am brofiad ac arwyddocâd hanes personol.

Mae Becca hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gydlynu gwyliau yng Nghaerdydd. Yn fwyaf diweddar, hi oedd cydlynydd Gŵyl Gyfoes Caerdydd, gŵyl gelfyddyd weledol uchelgeisiol a gychwynnwyd gan Gyngor Caerdydd, ac roedd hefyd yn gydlynydd gŵyl gelfyddydau hyperleol madeinroath. Enillodd radd ddosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain gan Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn 2005.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
UNIT(e) 2015
Everything.
All At Once.
At The Same Time.

g39 Fellowship TWO
No
Time
To Plan
an Ending


Dolenni :
www.rightoftheland.blogspot.com
  • <i>RED SHOES MARCH</i>, documentation (2014)
  • <i>Right of the Land</i>, documentation (2012)
  • <i>Right of the Land</i>, documentation (2012)