Mae Ian Watson (Caerdydd) yn artist amlddisgyblaeth sy’n gweithio gyda 2D, sain a fideo.
Fe astudiodd Ian peintio yng nghampws Howard Gardens, UWIC a chyn hynny yng Ngholeg Hastings yn agos at fro ei febyd. Ers graddio yn 2000 mae wedi gweithio yn ôl-gynhyrchu ffilm a theledu, cyn dychwelyd i greu celf yn 2009 ac ers hynny wedi parhau i greu gwaith fideo ar gyfer perfformiadau cerddorol, theatr a gosodiadau fideo.
Bu Ian yn dysgu mewn gweithdai llunio ac animeiddio i Criw Celf ac Arts Active, fel darlithydd gwadd yn dysgu modiwl mewn Sain Greadigol a Cherddoriaeth yn PDC. Mae hefyd yn ymarferydd Cyngor Celfyddydau Cymru.