Gail Howard

b. Hampshire
Byw a gweithio Caerdydd, Cymru

Mae Gail Howard yn arlunydd gweledol yng Nghaerdydd sy'n aml yn ymwneud â gwaith cydweithredu, negodi ac ailddychmygu a arweinir gan artistiaid a defnyddwyr. Mae'r gwaith yn ymateb i'r lleoliad a'r bobl ac yn canolbwyntio ar ddeialog, ymgysylltu a phrosesau. Fel defnyddiwr hirdymor o wasanaethau iechyd meddwl gyda chyflwr awto-imiwn / poen cronig, sy'n aml yn golygu bod yn rhaid iddi weithio o'i gwely, mae peintio a gwneud gwaith â llaw yn gynhenid i'w gwaith. Mae ei phynciau/themâu cyfredol yn cynnwys rhaglenni teledu yn ystod y dydd a'r 'arbenigwyr' iechyd meddwl sy'n ymddangos arnynt, cynwyddoli'r agenda llesiant, a chynnydd y grŵp cymorth ar-lein.


“O dro i dro, ond nid bob amser, mae fy ngwaith yn esblygu fel canlyniad uniongyrchol i'm profiadau fy hun fel claf ar ward seiciatrig, a defnyddiwr hirdymor gwasanaethau iechyd meddwl. Ac mae'r driniaeth y cefais ynddynt, yn enwedig y defnydd gormodol o therapi electrogynhyrfol, chwalu gwasanaethau therapi galwedigaethol, a'r diffyg mynediad at weithgarwch ystyrlon ar gyfer cleifion mewnol, i gyd yn bynciau sy'n ailgodi.”

Yn anfodlon ar yr agenda ‘llesiant’ a fabwysiadwyd gan y mudiad celfyddydau ym maes iechyd o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth ac o safbwynt artist, mae prosiect parhaus Howard, ‘A Brief History of Healing’, yn ceisio hyrwyddo buddion celf a'r weithred o greu, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymdeithasol a gofal sefydliadol. Mae hefyd yn ffordd o roi llwyfan i llais y claf, gan roi stori'r claf uwchben y straeon niferus a grëwyd gan haenau o gyfyngiadau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a sefydliadol.

Mae ei harddangosfeydd diweddar wedi cynnwys ‘Heb Ffiniau’ yn Oriel Elysium yn Abertawe a Rima Rupa Biennale, Yogyakarta, Indonesian Art Institute, y ddwy yn 2021; Gwobr Celfyddydau DAC, Oriel Davies, ‘Ty sy'n Siarad (scream into the void motherf*ckers)’ yn 2020; ac ‘artists & their pets’, gofod TOMA, Southend 2020.Mae ei harddangosfeydd blaenorol yn cynnwys ‘Births, Deaths and Shuffles’, Caerdydd Gyfoes 2014, ‘Subtweet Retweet – Tweet Me Up Tate Tanks’, Llundain 2012, a ‘Mothers & Sons’, Collins Gallery, Glasgow, Whistlers Mother Centenary Festival 2004. Yn 2018, sefydlodd The Basket Exchange, a arweiniodd at gychwyn y prosiect ‘A Brief History of Healing’, mewn partneriaeth ag ArcadeCampfa.

Ochr yn ochr â'i gwaith ac fel rhan ohono, mae Gail yn gyd-sylfaenydd Made in Roath a Pam (mudiad celf y bobl), sefydliad lleol iawn yng Nghaerdydd sy'n cynnal gwyliau, preswylfeydd i artistiaid a llyfrgell fach, grŵp stiwdio ac ystafell dywyll gymunedol. Gail yw'r artist arweiniol ar gyfer yr Housecall Outreach Project, yn gweithio gyda thîm iechyd meddwl cymunedol LINKS, ac mae wedi gweithio fel curadur gyda g39 ar gyfer gwaith comisiwn Tu Fewn, yn benodol yng nghyd-destun anabledd a'r celfyddydau, gan ddefnyddio'r syniad o ‘wytnwch addasol’ a'r model cymdeithasol mewn perthynas â lleoliadau celf.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
In Retrospect
g39 Fellowship FOUR

Dolenni :
www.gailhoward.net