16 Chwefror - 15 Mawrth 2008

Mae Neil McNally yn artist traws-ddisgyblaethol. O fewn llawer o'i waith diweddar mae’n herio’r hanesion a dderbynnir o'r 'Byd Celf', yn aml bydd yn tanseilio cyfeiriadau celf mewn ffordd ddidaro. Gan weithio gyda phaent, ffilm, ffotograffiaeth, testun, perfformiad, mae ganddo ymgysylltiad amwys â naratifau cynhyrchu diwylliannol ac artistig.
Mae'r gwaith ei hun yn gymysgedd o eironi gwybodus, naïfrwydd a chwarëusrwydd. Llawn cyfeiriadau, mae'r gwaith yn dynwared artistiaid eraill a thrwy'r broses cynhyrchu'n datgelu hoffter o waith cyfoes wrth wawdio confensiynau'r oriel a disgwyliadau cynulleidfaoedd celf.
Mae teitl McNally yn adlais o'r ffilm o 1969 Liebe ist kälter als der Tod (Mae Cariad yn Oerach na Marwolaeth) a gyfarwyddwyd gan Rainer Werner Fassbinder. Ar y llawr gwaelod mae ei 'baentiadau wal' yn drech na ni. Mae McNally yn cael sbort am ben natur leol gweithiau a baentir ar waliau drwy gomisiynu paentiad o wal wedi’i phaentio ar wal. Mae'n cyfeirio at baentiadau ogofâu fel Lascaux, ac at Sol LeWitt, y gwneir ei baentiadau ar waliau fel arfer gan bobl heblaw am yr artist ei hun. Mae ymarfer LeWitt yn seiliedig ar y syniad mai’r syniad ei hun yw'r gelf, nid y dull o’i gwneud, gan drosglwyddo cyfarwyddiadau penodol i dechnegwyr orielau ar gyfer gweithiau cymhleth ar waliau. Mae McNally wedi dosbarthu set o gyfarwyddiadau i'r oriel er mwyn iddynt gael eu trosglwyddo i artistiaid eraill. Roedd y cyfarwyddiadau mor gryno â 'paentiwch hen wal mewn adfeilion, gan ddefnyddio'r lliwiau a ddarparwyd yn unig, dim geiriau' ond yna roedd cyfres o gyfeiriadau mor eang â 'llwydni ar fara, adfeilion castell, y Marquis de Sade a Phil Spector'. Roedd y canlyniad terfynol yn debyg i brosiect cymunedol yn hytrach nag i ffresgo o'r dadeni. Mae rhywbeth sy'n fwriadol fud wrth adael i'r wal hon, y cyflwyniad i weddill y sioe, fod yn fater o hap, ond mae'n dangos proses yr artist.
Yn gwrthbwyso'r paentiad murlun-graffti hwn y mae cyfres o ddarluniadau ar bapur. Gan ymddangos fel stribed naratif fach rydym yn ymdrechu i wneud synnwyr o'r delweddau hyn, maent mor wahanol ag ysbryd yn cael ei gario ar gefn rhywun, menyw y rhennir blew ei chesail â menyw arall a llew yn curo cwningen. Yn gyd-ddigwyddiad, mae'r darluniadau a'r paentiadau wal yn cyd-fynd, maent yn edrych fel y gallai'r un person fod wedi'u gwneud.
I'r gwrthwyneb, mae'r llawr cyntaf yn dangos ailweithiad o waith Douglas Gordon, 24 Hour Psycho. Gwneir fersiwn McNally, fodd bynnag, gan ddefnyddio fersiwn Gus Van Sant a wnaed yn 1996 ac a wawdiwyd yn fawr, yn hytrach na fersiwn wreiddiol Hitchcock. Mae'n gopi o gopi. Cafodd copi saethiad am saethiad Van Sant ei gondemnio fel y copi gwaethaf o ffilm erioed mewn hanes (er i Slavoj Zizek ei galw'n gampwaith a fethodd, yn hytrach nag yn fethiant). Mae Christopher Doyle (ffilmiwr Psycho) wedi canmol Van Sant am ff-cio Hollywood am $20 miliwn er mwyn gwneud traethawd ymchwil MFA am wreiddioldeb. Yn debyg i Psycho Hitchcock mae'n fersiwn newydd y mae pobl yn gwybod amdani hyd yn oed os nad ydynt wedi'i gweld.
Mae'r llawr uchaf yn newid ei naws eto, wrth inni wynebu pentwr o wallt dynol wedi'i gerflunio, yn arogleuo ychydig o loriau siopau trin gwallt a sebon. Yn ddryswch ac yn frwnt â glud a budreddi, mae hyn yn edrych yn fwy fel cedor na rhywbeth sgleiniog, yn fwy fel marwdy na mwped. Mae adysgrif o e-bost oddi wrth amgueddfa gweithiau cwyr Madame Tussaud ar y wal yn rhoi awgrym inni am ei darddiad. Ymddengys fod McNally, yn niffyg digon o arian am y prosiect hunan-falchder mwyaf, wedi bwrw iddi ei hun. Yma, wrth ein traed, y mae pelen ryfedd o wastraff dynol. Wrth inni droi i fynd i lawr, y mae'r rhyfedd olaf yn peri inni feddwl am yr hyn rydym wedi'i brofi - saethiad sgleiniog o'r pumdegau o ddwy seren hardd, anghofiedig, sy’n ein hatgoffa unwaith eto o’r darluniadau ar y llawr gwaelod.
Gyda diolch i Jess Hunziger, Ben Glencross a Hattie Greinig.